English

Mae gennym 12 aelod sy’n cynrychioli tair ward, sef Rhosgadfan, Rhostryfan a Dinas. Mae’r aelodau’n weithgar ac ymroddgar iawn, ac am wneud eu gorau dros y bobl maent yn eu cynrychioli.

Mae cymuned Llanwnda yn cynnwys pentrefi Rhosgadfan, Rhostryfan, Rhos Isaf, Llanwnda, Dinas a Saron, gyda phoblogaeth o oddeutu 1,900. Fe welwch o’r lluniau sydd ar y safle hwn ei bod yn ardal o harddwch arbennig. Mae golygfeydd godidog o Gaernarfon a’r cylch i’w cael yma.


Mae nifer helaeth o lwybrau cyhoeddus yn croesi’r plwy, ac mae’r hen ffordd reilffordd adnabyddir fel Lein Bryngwyn bellach wedi’i mabwysiadu fel llwybr cyhoeddus rhwng Tyddyn Gwydd a Bryngwyn. Mae rhan o Lôn Eifion, sydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr, hefyd yn y plwy. Gellir beicio o Lanwnda naill i Gaernarfon neu i Fryncir. Ceir hefyd rannau helaeth o dir comin yma, gyda llwybrau dirifedi’n mynd o Rhosgadfan i’r Waunfawr a Betws Garmon ar y naill law ac i gyfeiriad Y Fron a Charmel ar y llall. Mae merlota hefyd yn boblogaidd iawn, gan fod nifer o ffyrdd distaw a thir comin ar gael yn yr ardal.

Diolch am ymweld â’r safle.

Bethan Williams, Clerc

Mae croeso i chi gysylltu â mi naill ai ar y ffôn, drwy lythyr neu e-bost i’r cyfeiriad isod:

Ffôn: 01286 831443 Ebost: bethancwilliams@tiscali.co.uk

Bethan Williams, Clerc, Cyngor Cymuned Llanwnda, Pencaenewydd,Rhos Isaf, Caernarfon, Gwynedd. LL54 7NG