Dyma rhestr o’r llwybrau cyhoeddus sydd oddi fewn i ardal Cyngor Cymuned Llanwnda
RHIF, DISGRIFIAD
0 Llwybr sydd wedi’i lêsio gan y Cyngor oddi wrth Gwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru ar hyd Lein Bryngwyn. Er nad yw’n bosib defnyddio’r llwybr yn ei gyfanrwydd, oherwydd rhwystrau ym mhentref Rhostryfan, mae modd osgoi’r rhain drwy fynd drwy’r pentref ac ail-ymuno a’r llwybr. Mae hysbysfyrddau wedi’u gosod mewn mannau ar hyd y lein gan Gyngor Cymuned Llanwnda sy’n olrhain hanes y lein.
1 CHATAM A LLWYBR MORGLAWDD CHATAM. Cychwyn yn Chatam dwy’r giât a thros bont y morglawdd tuag at ffin y gymuned. Rhan wedi’i drosglwyddo i lwybr rhif 86, Llandwrog
2 & 2A Cychwyn yn y Stordy drwy Glanrafon ar hyd morglawdd at lwybr rhif 87, Llandwrog.
3 & 3A Ger y ffin ger Collfryn, drwy’r iard at Rhedynog Felen Fawr ymlaen i Ty Mawr, ac yna’n fforchio yng nghae Ty Mawr, un ffordd i giât Chatam a’r llall i Pont Storehouse.
4 Cychwyn ar y ffin ger Pencefnydd drwy Rhedynog Fawr a Cae Glas i giât Tyddyn Bychan.
5 Cychwyn ar y gamfa dros y ffordd i Tyddyn Seipar, draw am Pengwern a Hen Foryd, allanfa ger Bonc Foryd.
6 Cychwyn yn giât Foryd Newydd drwodd i Felin Bont Faen ac i bont Felin Bont Faen.
7 Cychwyn ger Capel Saron drwy’r cae ac ymuno gyda llwybr rhif 6 yn Felin Bont Faen. Fforchio at Tai Newyddion tua’r gorllewin ac yna’r de-orllewin ar hyd hen lôn drol cyn ymuno â’r ffordd sy’n arwain rhwng Groesffordd Saron a Foryd.
8 Cychwyn yn Fferm Rhedynog Felen ar draws caeau i bentref Llanwnda.
9 Cychwyn yn un o gaeau Gwylfa a thrwy giât mochyn, dros bont haearn a cyd redeg ar hyd y gwrych gorffen ar y ffordd rhwng Dinas a Saron.
10 Cychwyn ar gamfa ger y giât sy’n arwain i Fferm Geufron, ar draws caeau gan ddilyn yr afon Gwyrfai sy’n rhan o’r ffin i’r plwy. Llwybr yn pasio heibio Fferm Ty Cerrig ac yn dod allan ger Pontfaen, hefyd mae allanfa ger Penrallt Ty Uchaf.
11 Cychwyn yn y giât ger Rhyd Galed, ar draws caeau, heibio Penycae at Tai’n Lôn.
12 Cychwyn ger Benar ar Ffordd Pwllheli, ar draw cae sy’n perthyn i Bodaden ac yn gorffen ger Ty Lôn Bodaden ar ffordd Rhostryfan.
13 Croesi Pont Rheilffordd Dinas heibio ochr de-ddwyreiniol Eglwys St.Gwyndaf, ymlaen i gyfeiriad Bontnewydd, dros y rheilffordd a thros gamfa goncrid ac ymlaen i Ffrwd Cae Du.
14 Cychwyn yn fferm Caer Moel ar draws tri chae i’r de i gyfeiriad Fferm y Gadlys, un llwybr yn fforchio i ymuno â llwybr rhif 15, a’r llall yn mynd drwy iard y fferm i’r gogledd –orllewin cyn belled â’r ffynnon. Yma mae’r llwybr yn fforchio i’r gorllewin tuag at gyfeiriad ffordd Penygroes-Caernarfon, yna’n parhau tuag at Ffarm Garth y Gro cyn gorffen ar y ffordd fawr dros y ffordd i Gapel Glanrhyd.
14A Mae’r llwybr hwn yn debyg i lwybr rhif 14 cyn fforchio ger y ffynnon i’r gorllewin.
15 Cychwyn yn Efail Dolydd drwy Cefn i’r dwyrain o Gadlys heibio Mynwent Cefnfaes, trwy gaeau Bodaden cyn ymuno â ffordd Rhostryfan.
15A Parhau o lwybr wrth Cefn Hendre i’r gorllewin i’r ffordd ger Maen Coch.
16 Cychwyn ger hen safle Capel Graianfryn, parhau tua’r gogledd-ddwyrain am y rhan gyntaf, yna de-ddwyrain tuag at Maen Coch ar ffordd Caernarfon-Penygroes.
17 Cychwyn yn giât Hen Gastell drwy gaeau Hen Gastell i Bont Dolydd.
18 Cychwyn yn Bont Dolydd drwy gefnau Traean ymlaen i gaeau Cefn ac yna fforchio islaw Penrhosgwta gyda rhan yn ymuno â llwybr rhif 15 ger Gadlys, a’r llall i’r ffin ger Cae Garw.
18A Cychwyn ger Efail Dolydd ac yna’n ymuno â llwybr rhif 18 ger Traean.
19 Cychwyn ger y gamfa dros y ffordd i Park Gate, parhau am y rhan helaeth i gyfeiriad y dwyrain. Mae rhan olaf y llwybr yn cyd redeg gyda Tai Tan y Cefn ac yn gorffen ger y gamfa uwchben y bont reilffordd.
20-100 Cyngor Cymuned Llandwrog
101 Cychwyn yn Tanrallt i’r tir comin drwy Gors Goch Isaf.
102 Llys Ifor i’r tir comin drwy Gors Goch Isaf, cyn ymuno gyda llwybr rhif 101 o dan Gors Goch.
103 Cychwyn yn Llwyn Celyn ymlaen i Bryn Gro drwy Cerrig Sais.
104 Cychwyn yn Bryn Crin drwy Brithdir i Llwyn Onn.
105 Cychwyn yn Llwyn Onn drwy Brithdir i Bryn Gro.
106 Cychwyn yn Brithdir i Cerrig Sais a Gors ac ymlaen i’r tir comin.
107 Cychwyn yn Bryn Bach drwy Brithdir , yna ymlaen i Cerrig Sais a’r tir comin.
108 Cychwyn yn Ty’n Weirglodd drwy Ty’n Rhosgadfan i’r ffordd ger y fynwent.
109 Cychwyn yn Penyffordd drwy Garnddu i Ty’n Rhosgadfan. (NID YW’R LLWYBR YMA BELLACH YN BODOLI – DIDDYMWYD YN OL RHEOLAU DIDDYMU LLWYBRAU CYHODDUS 1987)
110 Cychwyn o’r brif ffordd rhwng Penrhos ac Eryri Wen, drwy giat tuag at gyfeiriad y gogledd heibio Penrhos tuag at wal gerrig i’r gogledd o’r ffynnon. Mae’r llwybr wedyn yn mynd i’r gogledd-orllewin am oddeutu 9m i du blaen y sied cyn troi eto i’r gogledd-ddwyrain gan fynd ar hyd ffordd Ty Hen cyn ymuno â’r lôn dros y ffordd i’r clwb. (PATH DIVERSION ORDER, 2003)
111 Cychwyn yn Beudu, islaw Aberalaw, crwy Cae Sais a Cae Rodyn i Rhostryfan.
112 Cychwyn yn Fron Wydr drwy Cae Rodyn a Cae Sais i Rhostryfan.
113 Cychwyn yn Bryn Gwilym drwy Bryn Ioan, Cae Sais i Hafoty Ty Newydd.
114 Cychwyn yn Bod Gadfan drwy Garnedd i Pen y Bryn Isaf.
115 Cychwyn ym Mynwent Rhosgadfan drwy Bod Garad i Bontnewydd.
116 Cychwyn ym Mynwent Rhosgadfan drwy Bod Garad i Bontnewydd.
117 Cychwyn yn Cadfan Isaf drwy Bod Garad i Bontnewydd.
118 Cychwyn yn Cadfan Isaf drwy Gaerwen i Rhostryfan.
119 Cychwyn o ffordd Rhosgadfan ac yn mynd drwy fyndfa Cae Rhug. Gadael y mynedfa drwy giat cae ac ar ol 34m mynd i’r cae o flaen Cae Rhug gan fynd i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd ffin y cae i’r gornel. Mae’r llwybr wedyn yn mynd drwy agoriad yn y ffin ac yn parhau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd ffin y cae nes ymuno a llwybr rhif 118, sy’n cydredeg â’r ffordd sy’n arwain i’r Gaerwen. (PATH DIVISION ORDER, 1992)
120 O Plas Ffynnon i Pen y Bryn.
121 O Pantiau i Tan y Gaer.
122 Cychwyn yn Bryn Afon drwy Fach Goch i’r tir comin.
123 Cychwyn yn Bryn Arfon drwy Gors Goch i’r tir comin.
124 Cychwyn yn Fron Wydr i Cae Haidd Bach.
125 Cychwyn yn Bryn Menai i Ty Newydd – Ty Croes ac allan i’r ffordd rhwng Rhostryfan a Rhosisa ger Glan y Wern. Hefyd Bryn Menai i Pen y Ceunant a Bryn Menai i Wernlas Wen.
126 Cychwyn ger y ffordd fawr yn Bryn Derwen ar draws caeau i Ty Newydd ac ymuno a llwybr Bryn Menai i Glanywern.
127 Cychwyn yn y ffordd islaw Glanrafon, ar draws y caeau i Cae Coch.
128 Cychwyn yn Dolwar pasio Bryn Elen ac ymuno efo llwybr Hafoty Ty Newydd- Tan y Gelynnen.
129 Cychwyn yn Llwynimpia i Cae Goch.
130 Cychwyn ger Capel Horeb– drwy’r caeau ger Tanyfron a Pant Coch ymlaen i Cae Coch.
131 Cychwyn yn Tyddyn Canol gan ymuno a llwybr Bryn Gwynfor i Tanyrallt.
132 Cychwyn yn Tyddyn Parthle – drwy’r caeau heibio Bryn Beddau ac allan yn ffordd Rhostryfan – Menai View ger Wernlas Ddu.
133 Cychwyn yn llwybr 132 i Wernlas Ddu.
134 Cychwyn ar y ffordd ger Tyddyn Seipar mynd i gyfeiriad y de, gan groesi llwybr rhif 3, ac ymuno a’r ffordd yn Afon Carrog.
135 Cychwyn ar y ffordd ger Tyddyn Seipar mynd i gyfeiriad y de/de-ddwyrain cyn ymuno a llwybr rhif 4 yn Tyddyn Bychan.
136 Cychwyn yn Tyn Lôn ar ffordd Rhostryfan – Ffrwd Cae Du heibio Bodaden i gyfeiriad y de-ddwyrain i’r ffordd rhwng Rhos Isa a Menai View ger Tyn y Weirglodd.
137 Cychwyn yn llwybr rhif 118 ger gorsaf Rhostryfan i’r gogledd-ddwyrain heibio Hafoty Wernlas gan groesi llwybr 116 ac ymuno a llwybr rhif 115 yn Bod Garad.
138-142 Nid yn Llanwnda.
143 Cychwyn ger gamfa rhai medrau oddi wrth Pant Dolyn gan fynd i’r dwyrain cyn ymuno a llwybr rhif 19, Llandwrog, i’r gogledd-orllewin o Gilwern Isaf.
144 O lwybr 21, Llandwrog ger Gilwern Uchaf i’r gogledd-ddwyrain i’r ffordd sy’n arwain i Rhos Isaf.
145 Cychwyn islaw Tryfan Hall ac yn dilyn llwybr y fynedfa i Gerlan, camfa ar y chwith cyn mynd i fewn i iard y fferm. Mae tair camfa i’w croesi cyn dod allan ar y ffordd rhwng Groeslon Tryfan a Rhos Isaf tua 100m i gyfeiriad Rhos Isaf oddi wrth rhesdai Bryn Peris.
146 Cychwyn ar y ffordd rhwng Tryfan a Rhos Isaf, tua 150m i’r gogledd o Resdai Bryn Peris, ar draws tir garw i Gilwern, gan droi i’r dde tuag at Cae Garw cyn ymuno a’r ffordd i Rhostryfan.
147 Fel uchod o Cae Garw i Rhos Isaf.
148 Heol geffylau o Bryn Eden, tu cefn i Bryn Glas i’r ffordd yn Rhos Isaf.
149 Cychwyn fel llwybr rhif 145 ar draws caeau yn Gerlan, dros dair camfa ac i’r ffordd ger Glan Llyn.
150 Parhad o lwybr 149 ond yn fforchio i’r gogledd-ddwyrain ar draws tir garw, tuag at y ffordd rhwng Rhosgadfan a Rhostryfan ger Capel Horeb.
151 Cychwyn o’r un pwynt a rhif 150 ond yn fforchio tu draw i Coed y Brain i’r dwyrain dros dir garw iawn gyda cherrig mawr a grug cyn croesi’r hen reilffordd. Ymlaen tuag at Hafoty Ty Newydd ar hyd y fynedfa i’r ffordd rhwng Rhosgadfan a Rhostryfan.
152 Fforch o lwybr 151 sy’n arwain o Tryfan i Ardal y Bryn.
153 O lwybr 32, Llandwrog ger Cae Haidd Bach i’r gogledd tuag at Hafoty Ty Newydd.
154 Cychwyn tua’r de o Hafoty Ty Newydd i lwybr 33, Llandwrog.
155 Cychwyn ger Hen Gapel Moelfry Mawr i’r de o hen safle Capel Hermon, ymlaen ar draws tir comin i’r de-orllewin cyn cyrraedd ffordd Rhosgadfan-Fron islaw Tan y Braich.
156 O lwybr 146 i’r de o Gilwern i gyfeiriad y de-orllewin i ymuno a llwybr 81, Llandwrog ger Gilwern Isaf.
157 O’r ochr ddwyreiniol i’r ffordd Ger Maen Gwyn ar hyd y ffordd, troi i gyfeiriad y gogledd ar draws hen safle rhesdai, yna i’r dwyrain i ymuno a llwybr Chwarel Alexandra. O’r chwarel mae’r llwybr yn dilyn ffin y plwy i ben Moel Tryfan.
158 O lwybr 46, Llandwrog tua’r gogledd i Tyddyn Engan.
159 O lwybr 2, Betws Garmon i lwybr 160.
160 O lwybr 114, i’r gogledd-ddwyrain i ymuno a llwybr 3, Betws Garmon.